Archif Bocsys Celf


Void Faction – Atmospheric Baggage
Mari Rose Pritchard & Julie Upmeyer

22/03/24 - 09/06/24

Pyrth i fydoedd eraill o amseroedd daearegol, trwy gyfres o bedwar cynulliad annhebygol o galch, geiriau, a goleu.

Mae’r blychau yn Cei Llechi yn cyflwyno amlygiadau tri-dimensiwn o bedwar cofnod sy’n ymddangos mewn ‘a limestone glossary’, sef cyhoeddiad newydd gan yr artistiaid Mari Rose Pritchard a Julie Upmeyer. Mae'r eirfa yn casglu eu profiad gyda chalchfaen, llwch calchfaen ac sgil-gynhyrchion chwarela eraill ar ffurf llyfr. Mae'r cyfosodiadau sy'n ymddangos yn y blychau yn cynnwys sbarion calchfaen carbonifferaidd wedi'u newid a'u hymestyn, eu siapiau a'u gweadau yn adlewyrchu'r gweithrediadau chwarela a brofwyd ganddynt yn ddiweddar.

Mae Void Fraction yn brosiect cydweithredol parhaus sydd wedi canfod bod yr artistiaid, ynghyd â llawer o’u ffrindiau a’u teulu, wedi ymgolli’n llwyr ym mherthnasedd a hanes calchfaen.

Diolch yn fawr i Anglesey Masonry, a leolir yn Chwarel Aber ar Ynys Môn, am eu cefnogaeth barhaus a'u cyfraniadau i'r prosiect.

  • calchfaen
  • calchfaen
  • calchfaen

Tai Coll
Morgan Davies | Will Judge | Laura O’Connor

19/01/24 – 17/03/24

Wedi’n hysbrydoli gan waith Thomas Lloyd a fu’n arolygu tai gweledig yng Nghymru a ddymchwelwyd ers 1900, rydym ar hyn o bryd yn ail-ddychmygu darnau coll neu anghofiedig o gartrefi hanesyddol ledled Cymru. Ar gyfer pob ymchwiliad rydym yn dechrau gyda lluniad pensaernïol a model astudio, a arddangosir yma yn y Blychau Celf Cei Llechi ar gyfer ein harddangosfa gyntaf.

Rydym yn awyddus i ddarganfod a phwysleisio hanes pensaernïol rhanbarthol a gweddillion pwysig creu lleoedd Cymreig a allai fod wedi cael eu hanghofio neu eu hanwybyddu yn ddiweddar. Mae'r enghreifftiau hyn yn amrywio o ran maint, graddfa ac arwyddocâd; pob un yn gartref preswyliedig yr un mor bwysig, gyda straeon a chwedlau i'w darganfod a'u hadrodd. Mewn cyfnod lle mae cymdeithas yn prysur drefoli, mae’n ymddangos yn fwyfwy pwysig i fyfyrio ar ein hanesion pensaernïol rhanbarthol a gynhenid ac ar athroniaethau unigryw cadwraeth treftadaeth – ddoe a heddiw. Mae Cymru yn genedl o drefi bach ac aneddiadau gwledig, pob un â hanes amrywiol a chyfoethog yn cwmpasu ystod eang o deipoleg adeiladau o wahanol raddfeydd gan gynnwys; amddiffynfeydd cestyll, abatai, plastai, ffermydd, llochesi fynyddoedd ac eiddo teras. Nod ein hastudiaethau yw ysgogi sgwrs ehangach am leoedd gwledig ledled Cymru, a’u nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol a phensaernïol.

Henblas, Beaumaris
Tŷ ffrâm bren o'r 15fed ganrif a oedd yn arfer bod gerllaw eglwys y plwyf ym Miwmares, Ynys Môn. Roedd y cartref wedi'i drefnu mewn cynllun math H, gyda neuadd ganolog ac adenydd llety o'r naill ochr.

Cwmorthin Terrace
Teras o wyth o dai a adeiladwyd gan Gwmni Chwarel Cwmorthin yn y 1860au gan ddefnyddio carreg nadd, ac yna pum cartref arall yn y 1870au wedi’u hadeiladu o lechi. Mae gwaith cofnodi, archeolegol a chadwraeth wedi ei wneud yn ddiweddar gan aelodau o Brosiect Cofio Cwmorthin a Chymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog.

Rhyg, Corwen
Estyniad adenydd mawr tua 1880au i’r plasty clasurol a adeiladwyd tua 1798. Wedi’i gynllunio’n rhannol fel gardd aeaf, roedd ystafell wydr haearn bwrw addurniadol gyda cholonâd 5 bae wedi’i rhannu gan sgriniau symudol o ystafell ddawns/ystafell filiards. Cafodd y strwythur ei ddymchwel ym 1974, a chafodd sylw yn llyfr Thomas Lloyd ‘Lost Houses of Wales’ a gyhoeddwyd gan Save Britain’s Heritage.

  • arddangosfa tai coll
  • arddangosfa tai coll
  • arddangosfa tai coll

Instagram @taicoll.losthouses


Gwenllian Spink

Medi 2023 – Ionawr 2024

  • celf-gwenllian-cei-llechi
  • celf-gwenllian-cei-llechi-2

Artist amlddisgyblaethol yw Gwenllian Spink, â’i gwaith wedi’i wreiddio yn nhirweddau diwylliannol Cymru. Yn gerfluniol yn bennaf, arweiniwyd ei gwaith gan ddeunyddiau. Yn fwyaf diweddar, mae wedi derbyn cyllid fel rhan o gronfa Llais y Lle gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i ymchwilio a datblygu'r defnydd creadigol o'r Gymraeg o fewn cymunedau Dyffryn Nantlle (2023-24). Cynhwysa enghreifftiau o arddangosfeydd grŵp ac unigol diweddar Bwystfilo yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (2023); Chwa o Awyr Iach yn Pontio, Bangor (2023), Dragon Vets yn Oriel Fitzrovia, Llundain (2022).

Cynhwysa comisiynau diweddar Comisiwn Gwledd Cymunedol Y Fenni gan Peak Cymru (2023), Youth Grant Grow Wild gan Gerddi Fotaneg Kew (2022) a chomisiwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru i greu cerflun cyfranogol sy’n amlygu’r fioamrywiaeth sy’n bresennol yn ecosystemau prin Gors Caron, sef cyforgors yng Ngheredigion (2022). Mae’r gosodiadau sy’n cael eu harddangos yng Nghei Llechi wedi tyfu o arbrofion chwareus sydd wedi’u gwreiddio yn rhandir yr artist yn Nyffryn Nantlle, trwy drin y llain fel llyfr braslunio cerfluniol.

 


Cara Louise Jones

Plastiq Yn Y Mor

05/05/23 – Gorffenaf 2023

Mae Cara yn artist niwro-amrywiol benywaidd o Gymru. Mae hi’n archwilio’r rhyng-gysylltiadau â’r byd naturiol ac esblygiad rhywogaethau dynol ac annynol, eu heffeithiau a’r achosiaeth. Gan ystyried ecolegau cyfannol y Ddaear, mae Cara yn defnyddio arferion rhyngddisgyblaethol i ddod â ffurf gysyniadol, gosodiadau, a chelfyddydau clyweledol i mewn i'r profiad dynol ac anthropomorffeiddio’r materol a’r anfaterol.

Wedi’i hysbrydoli gan allu dŵr i lunio’r deunydd, cyd-greodd Cara’r ffurfiau â moroedd Cymru trwy ei hymarfer o nofio a symud dros dir i mewn i gyflwr llif. Trwy ymdeimlad o arnofio, ataliad symudedd sy’n cael ei ddal gan fater, mae ei ffurfiau plastig yn ronynnau anthropomorffig sydd wedi eu treulio, cnoi, corddi, torri, a’u hailadeiladu, gan ymgorffori'r berthynas microcosm a macrocosm. Wrth agor deialog i’r creadigaethau dynol a chyffredinol fel deuoliaeth, gwahaniaeth, a’r un fath, mae’r ffurfiau plastig teithiol yma yn esblygu trwy fwyd ac economi. Daeth rhaffau glas y môr, plastig wedi'u ymlynu a gweddillion toredig wedi'u taflu yn gartref i borthwyr hidlo, yn feithrinfa i anifeiliaid dyfrol, yn atgof aruthrol o'r hyn sydd wedi dod i mewn i'n cadwyni bwyd.

Mae gweithiau celf Cara yn gartref i eitemau sydd wedi eu darganfod ar y traeth; casys wyau siarcod, sbwriel môr a lein bysgota, eitemau o’i theithiau cerdded a casglu sbwriel o amgylch arfordir Gogledd Cymru ar lanwau gwanwyn 2022. Wrth archwilio economi flaenllaw Cymru o ailgylchu fel ffurf, mae Cara’n defnyddio y dull o gasglu i gyfrannu at amgylchedd iachach a chefnogi ei lles fel rhan o’r broses.


Rhiannon Gwyn

Mae fy ngwaith yn archwilio’r cysylltiadau dwfn rhwng pobl a’r dirwedd. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut y gall deunyddiau ddangos hunaniaeth, gan ddylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas trwy argraffu ein hemosiynau a’n cof ar ein hamgylchfyd.

Rwy'n casglu llechi o chwareli gogledd Cymru ac yn eu meddalu a'u siapio yn yr odyn. Llechi pur yw’r silffoedd a welwch yn y bocsys arddangos yma yn Cei Llechi. Rwy’f wedi eu gosod gyda powlenni serameg sydd wedi eu paentio gyda gwydredd wedi'i greu o flodau'r eithin a gesglir o'r Carneddau.

Fe welwch chi hefyd yn y bocsys arddangos yma casgliad o blatiau addurniadol i’r wal sy'n cynnwys barddoniaeth fy nhad Y Prifardd Gwynfor ab Ifor.

www.rhiannongwyn.com
@rhiannongwyn.maker


Manon Awst

Wedi eu cuddio o fewn muriau Cei Llechi y mae bocsys sydd yn blatfform i dalent leol gael arddangos eu gwaith, yn plethu celf a diwylliant. Wrth gerdded o gwmpas y safle, treuliwch funud neu ddwy yn darganfod a phrofi’r gwaith celf a chrefft sydd ar ddangos.

Yn arddangos ei gwaith yn y bocsys ar hyn o bryd y mae’r artist adnabyddus Manon Awst.

Manon Awst - Bocsys Celf


Yn byw yng Nghaernarfon, mae Manon Awst yn creu cerfluniau a darnau celf safle-benodol wedi'u plethu â naratifau ecolegol a daearegol. Ym mocsys celf Cei Llechi, mae casgliad o’i cherfluniau bychain i’w gweld yn cynnwys cerrig lleol, drychau, rhwydi pysgota wedi’u hailgylchu a theganau traeth. Maent yn rhan o gyfres diweddar gan yr artist sy’n ymdrin yn chwareus gydag effaith twristiaeth ar dirweddau arfordirol.

www.manonawst.com
@manon_awst


Bocsys Celf

© 2024 Cei Llechi. Gwefan gan Delwedd