Cyfleoedd
Cartref > Cyfleoedd
Gyda diolch i gyllid drwy Raglen ARFOR a ariennir gan Lywodraeth Cymru - mae cyfle arbennig i fusnesau lleol sy’n masnachu drwy’r iaith Gymraeg fanteisio ar gynnig o 6 mis o rent AM DDIM yn un o dri o unedau sydd ar gael yn Cei Llechi, Caernarfon. Yn ogystal â hyn, mae dau fentor busnes ar gael i drafod unrhyw heriau a rhoi cymorth i chi ar hyd y ffordd.
Ar ddiwedd y cyfnod chwe mis, bydd opsiwn i’r ymgeiswyr llwyddiannus barhau yn yr uned a cychwyn cytundeb tenantiaeth gyda Galeri Caernarfon Cyf. ble mae telerau rhent cystadleuol iawn ar gynnig.
Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn gymwys i’r canllawiau isod;
- Bod yn rhugl yn y Gymraeg
- Bod o dan 35 mlwydd oed
- Bod yn fusnes sy’n creu nwyddau – ee. unigolion/busnesau sy’n gwneud amrediad eang o waith cynhyrchu nwyddau o emwaith i waith coed, gwaith hefo gwydr, haearn, llechi, dillad, bwyd a chynnyrch digidol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau peidiwch ac oedi e-bostio
gwion.llewelyn@galericaernarfon.com / tomos.owen@galericaernarfon.com
Dyddiad cau 9fed o Hydref 2023
Am ragor o wybodaeth am raglen ARFOR: www.rhaglenarfor.cymru
I ddatgan eich diddordeb cliciwch y linc isod: