Miss Sophie
Miss Sophie
Uned 10, Cei Llechi
Mae Sophie wedi gweithio yn Siop Eifion (Uned 2) ers blynyddoedd ac yn hynod gyffrous i agor siop ei hun, ‘Miss Sophie’. Wedi lleoli yn Uned 10, bydd Sophie yn mowldio cerameg ei hun â llaw gyda chlai canol tân a fydd wedyn yn cael ei danio mewn odyn. Bydd hi hefyd yn peintio canhwyllau â llaw i'w gwerthu a hefyd yn paentio dodrefn gyda phaent Annie Sloan.
Ochr yn ochr â'r cerameg a phaentio, mae Sophie yn gwerthu brandiau lleol a safon uchel sy'n cynnwys; Darluniad, Pluen, Joma Jewelry, Katie Loxton, Nkuku a llawer mwy.