Gyda diolch i gyllid drwy Raglen ARFOR a ariennir gan Lywodraeth Cymru - mae cyfle arbennig i fusnesau lleol sy’n masnachu drwy’r iaith Gymraeg fanteisio ar gynnig o 6 mis o rent AM DDIM yn un o dri o unedau sydd ar gael yn Cei Llechi, Caernarfon. Yn ogystal â hyn, mae dau fentor busnes ar gael i drafod unrhyw heriau a rhoi cymorth i chi ar hyd y ffordd.
Ar ddiwedd y cyfnod chwe mis, bydd opsiwn i’r ymgeiswyr llwyddiannus barhau yn yr uned a cychwyn cytundeb tenantiaeth gyda Galeri Caernarfon Cyf. ble mae telerau rhent cystadleuol iawn ar gynnig.
Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn gymwys i’r canllawiau isod;
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau peidiwch ac oedi e-bostio
gwion.llewelyn@galericaernarfon.com / tomos.owen@galericaernarfon.com
Am ragor o wybodaeth am raglen ARFOR: www.rhaglenarfor.cymru
© 2022 Cei Llechi. Gwefan gan Delwedd