Hanes ac Adfywio


Cei Llechi (1611 – 2022)

Mae tystiolaeth o darddiad yr hen Gei Llechi yn dyddio yn ôl i 1611 gyda mapiau yn dangos arwyneb lefel wedi ei dorri mewn i’r graig ar lan ddwyreiniol yr afon Seiont. Mae golygfeydd o’r ardal yn ôl y Deunawfed Ganrif, megis darlun Richard Wilson Caernarfon Castle (1745), hefyd yn dangos amryw o weithgareddau yn digwydd yn yr ardal megis atgyweirio rhwydi a chychod.

Cafodd yr ardal hon ei ddatblygu yn fath o ‘gei’ yn 1780 gan fasnachwr lleol o’r enw Thomas Hughes. Yn dilyn, cafodd berfâu eu cyflwyno gan ganwr salm o eglwys Llanbeblig, sef gwr o’r enw Robert Griffith, er mwyn symud y llechi a’r planciau i’w llithro i lawr i’r dalfeydd.

Ym 1793 galluogodd Deddf Seneddol ffurfio Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon. Creodd yr ymddiriedolaeth gei llechi newydd trwy ledu a dyfnhau afon Seiont. Parhaodd datblygiad y safle ac erbyn yr 1830au, roedd yr ardal gyfan ogwmpas y Cei Llechi yma yn brysur gyda:

  • biniau copr, plwm a glo
  • iardiau llongau a choed
  • odynnau calch a ffowndrïau

Adeiladwyd adeilad swyddfa’r harbwr yn 1840, adeilad sydd wedi’i restru Gradd II*. John Lloyd, pensaer o Gaernarfon sydd yn gyfrifol am y ddylunio’r adeilad.

Daeth y cei yn rhan bwysig o drafnidiaeth yr ardal wrth i gysylltiad uniongyrchol gael ei chreu gyda chwareli Nantlle o 1828 a gyda’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol o’r 1860au.

  • cei-llechi-1898
  • cei-llechi-oes-fictoria
  • cei-llechi-oes-fictoria-2
  • cei-llechi-prysur
  • gweithwyr-yn-cei-llechi
  • llwyth-llechi-dyffryn-nantlle
  • rheilffordd-lawr-i-cei-llechi

Mae'r casgliad o adeiladau sydd yn ffurfio Cei Llechi heddiw wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, o ran defnydd, yn:

  • Swyddfeydd
  • Gweithdai
  • Gweithdy gwneuthwrwr bloc a phwmp
  • Siop gof
  • Iard lo
  • Garej
  • Tŷ coets
  • Siediau a storfeydd

Roedd ardal Cei Llechi hefyd yn gartref i swyddfa De Winton, cwmni peirianneg enwocaf Caernarfon a phrif gyflenwr offer i chwareli llechi Gogledd Cymru.

Erbyn heddiw, diwydiannau ychydig yn wahanol sydd i’w gweld yma yn Cei Llechi…

  • Gof
  • Artistiaid
  • Cynhyrchwyr bwyd
  • Bwyty
  • Dylynudd/argraffdd “letterpress”
  • Crefftwyr
  • Lletygarwch
  • Cistiau arddangos gwaith artistiaid (sydd wedi deillio o brosiect gyda’r artist Bedwyr Williams)

Lluniau Cyn Adeiladu

  • hydref-october 2018-1
  • hydref-october 2018-2
  • hydref-october 2018-3
  • hydref-october 2018-4
  • hydref-october 2018-5
  • hydref-october 2018-6
  • hydref-october 2018-7
  • hydref-october 2018-8
  • hydref-october 2018-9
  • hydref-october 2018-10
  • hydref-october 2018-11
  • hydref-october 2018-12
  • hydref-october 2018-13
  • hydref-october 2018-14
  • hydref-october 2018-15
  • hydref-october 2018-16
  • hydref-october 2018-17
  • hydref-october 2018-18
  • hydref-october 2018-19

Yn Ystod Adeiladu

  • awst-august-2019-1
  • awst-august-2019-2
  • awst-august-2019-3
  • awst-august-2019-4
  • awst-august-2019-5
  • awst-august-2019-6
  • awst-august-2019-7
  • awst-august-2019-8
  • awst-august-2019-9
  • awst-august-2019-10
  • awst-august-2019-11
  • awst-august-2019-12
  • awst-august-2019-13
  • awst-august-2019-14
  • awst-august-2019-15
  • awst-august-2019-16
  • awst-august-2019-17
  • awst-august-2019-18
  • awst-august-2019-19

Prosiect Wedi'i Gwblhau

  • gorffennaf-july-2021-1
  • gorffennaf-july-2021-2
  • gorffennaf-july-2021-3
  • gorffennaf-july-2021-4
  • gorffennaf-july-2021-5
  • gorffennaf-july-2021-6
  • gorffennaf-july-2021-7
  • gorffennaf-july-2021-8
  • gorffennaf-july-2021-9
  • gorffennaf-july-2021-10
  • gorffennaf-july-2021-11
  • gorffennaf-july-2021-12
  • gorffennaf-july-2021-13
  • gorffennaf-july-2021-14
  • gorffennaf-july-2021-15

Mae pwyslais cryf yn parhau ar yr angen i greu a manwerthu yma yn Cei Llechi – nid gofod ar gyfer siopau neu werthu nwyddau yn unig yw’r bwriad – ond dod a diwydiant yn ol I’r safle pwysig yma yng Nghaernarfon a bod elfen o greu a diwydiant yn dychwelyd i Cei Llechi.

Yn clymu yr hen a’r newydd mae Cei Llechi yn cynnig gofodau i greu, i brofi ac i werthu a phrynnu.

Cwch Salmon y GSB1

Ar y safle mae adfaelion cwch pysgota salmon y GSB1 (GSB - Gwyrfai Seiont Braint). Cwch oedd yn cael ei ddefnyddio gan rai o drigolion Caernarfon a’r ardal ar y Fenai i bysgota â rhwyd am salmon yw’r GSB1 sydd wedi cael bywyd a pwrpas newydd fel mainc arbennig iawn. Mae’n debyg cafodd y gwch ei adeiladu yn ystod y 1960au. Robert Watkinson (Wax) oedd y perchen nog a’r capten diwethaf i ddefnyddio’r GSB1 yn ystod y 1990au cynnar – y cwch salmon diwethaf i rwydo Y Fenai.

Darganfyddwyd y gwch ar y Foryd. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel gwely blodau ac fe aeth Alun Lewis Jones (Al Pents / Alun “Shipwright”) a Robert “Wax” ati i drefnu cludo’r adfael o gwch i’w weithdy yn Y Felinheli gyda’r bwriad o’i adfywio. Yn anffodus, bu farw Al yn 2018, ond wrth lwc, mae ei fab, Bryn Granville Jones wedi mynd ati i drawsnewid adfaelion y GSB1 i fainc sydd yn dod a bywyd newydd i’r gwch arbennig yma.

Rydym yn hynod o falch o allu rhoi cartref newydd i GSB1 yn unol a dymuniad Al Pents, sef bod y gwch yn cael ei harddangos mewn man cyhoeddus. Erbyn hyn, dim ond dau gwch pysgota salmon o Gaernarfon sydd yn bodoli – y GSB1 yma yn Cei Llechi, a Cacwn sydd dan berchnogaeth Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Comisiynwyd y gwaith yn 2021 gan Galeri Caernarfon Cyf ac Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon. Ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

© 2022 Cei Llechi. Gwefan gan Delwedd