Amdanom Ni
Cartref > Amdanom Ni
Dyma brosiect adfywio gwerth £5.9m sydd wedi cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon Cyf. Cafodd y prosiect ei ariannu drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon.
Mae’r gwaith o adfywio wedi gweld Swyddfa’r Harbwr yn cael ei adnewyddu a’r unedau/adeiladau oedd wedi dirywio yn sylweddol yn dod nol i ddefnydd. Ar y safle mae 19 o unedau gwaith / crefft / manwerthu yn ogystal a 3 llety gwyliau hunan arlwyo, ystafell gyfarfod a hefyd ystafell sydd yn cyflwyno hanes a phwysigrwydd Cei Llechi yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r gwaith yn gyfuniad o adfer hen adeiladau y safle yn ogystal â chodi adeiladau newydd.
Y fenter gymdeithasol Galeri Caernarfon Cyf sydd yn gyfrifol am reoli a rhedeg y safle ar ran Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon.
I drafod rhentu uned ac am fwy o wybodaeth, ebostiwch ceillechi@galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685 206