Hanes ac Adfywio
Cartref > Hanes ac Adfywio
Cei Llechi (1611 – 2022)
Mae tystiolaeth o darddiad yr hen Gei Llechi yn dyddio yn ôl i 1611 gyda mapiau yn dangos arwyneb lefel wedi ei dorri mewn i’r graig ar lan ddwyreiniol yr afon Seiont. Mae golygfeydd o’r ardal yn ôl y Deunawfed Ganrif, megis darlun Richard Wilson Caernarfon Castle (1745), hefyd yn dangos amryw o weithgareddau yn digwydd yn yr ardal megis atgyweirio rhwydi a chychod.
Cafodd yr ardal hon ei ddatblygu yn fath o ‘gei’ yn 1780 gan fasnachwr lleol o’r enw Thomas Hughes. Yn dilyn, cafodd berfâu eu cyflwyno gan ganwr salm o eglwys Llanbeblig, sef gwr o’r enw Robert Griffith, er mwyn symud y llechi a’r planciau i’w llithro i lawr i’r dalfeydd.
Ym 1793 galluogodd Deddf Seneddol ffurfio Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon. Creodd yr ymddiriedolaeth gei llechi newydd trwy ledu a dyfnhau afon Seiont. Parhaodd datblygiad y safle ac erbyn yr 1830au, roedd yr ardal gyfan ogwmpas y Cei Llechi yma yn brysur gyda:
- biniau copr, plwm a glo
- iardiau llongau a choed
- odynnau calch a ffowndrïau
Adeiladwyd adeilad swyddfa’r harbwr yn 1840, adeilad sydd wedi’i restru Gradd II*. John Lloyd, pensaer o Gaernarfon sydd yn gyfrifol am y ddylunio’r adeilad.
Daeth y cei yn rhan bwysig o drafnidiaeth yr ardal wrth i gysylltiad uniongyrchol gael ei chreu gyda chwareli Nantlle o 1828 a gyda’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol o’r 1860au.
Mae pwyslais cryf yn parhau ar yr angen i greu a manwerthu yma yn Cei Llechi – nid gofod ar gyfer siopau neu werthu nwyddau yn unig yw’r bwriad – ond dod a diwydiant yn ol i’r safle pwysig yma yng Nghaernarfon a bod elfen o greu a diwydiant yn dychwelyd i Cei Llechi.
Mae'r casgliad o adeiladau sydd yn ffurfio Cei Llechi heddiw wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, o ran defnydd, yn:
- Swyddfeydd
- Gweithdai
- Gweithdy gwneuthwrwr bloc a phwmp
- Siop gof
- Iard lo
- Garej
- Tŷ coets
- Siediau a storfeydd
Roedd ardal Cei Llechi hefyd yn gartref i swyddfa De Winton, cwmni peirianneg enwocaf Caernarfon a phrif gyflenwr offer i chwareli llechi Gogledd Cymru.
Erbyn heddiw, diwydiannau ychydig yn wahanol sydd i’w gweld yma yn Cei Llechi…
- Gof
- Artistiaid
- Cynhyrchwyr bwyd
- Bwyty
- Dylynudd/argraffdd “letterpress”
- Crefftwyr
- Lletygarwch
- Cistiau arddangos gwaith artistiaid (sydd wedi deillio o brosiect gyda’r artist Bedwyr Williams)
Yn clymu yr hen a’r newydd mae Cei Llechi yn cynnig gofodau i greu, i brofi ac i werthu a phrynu.
Cwch Salmon y GSB1
Ar y safle mae adfaelion cwch pysgota salmon y GSB1 (GSB - Gwyrfai Seiont Braint). Cwch oedd yn cael ei ddefnyddio gan rai o drigolion Caernarfon a’r ardal ar y Fenai i bysgota â rhwyd am salmon yw’r GSB1 sydd wedi cael bywyd a pwrpas newydd fel mainc arbennig iawn. Mae’n debyg cafodd y gwch ei adeiladu yn ystod y 1960au. Robert Watkinson (Wax) oedd y perchen nog a’r capten diwethaf i ddefnyddio’r GSB1 yn ystod y 1990au cynnar – y cwch salmon diwethaf i rwydo Y Fenai.
Darganfyddwyd y gwch ar y Foryd. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel gwely blodau ac fe aeth Alun Lewis Jones (Al Pents / Alun “Shipwright”) a Robert “Wax” ati i drefnu cludo’r adfael o gwch i’w weithdy yn Y Felinheli gyda’r bwriad o’i adfywio. Yn anffodus, bu farw Al yn 2018, ond wrth lwc, mae ei fab, Bryn Granville Jones wedi mynd ati i drawsnewid adfaelion y GSB1 i fainc sydd yn dod a bywyd newydd i’r gwch arbennig yma.
Rydym yn hynod o falch o allu rhoi cartref newydd i GSB1 yn unol a dymuniad Al Pents, sef bod y gwch yn cael ei harddangos mewn man cyhoeddus. Erbyn hyn, dim ond dau gwch pysgota salmon o Gaernarfon sydd yn bodoli – y GSB1 yma yn Cei Llechi, a Cacwn sydd dan berchnogaeth Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Comisiynwyd y gwaith yn 2021 gan Galeri Caernarfon Cyf ac Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon. Ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.