Prosiect adfywio gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Galeri Caernarfon Cyf.


Cei Llechi

BETH YW CEI LLECHI?


Yn hanesyddol, roedd gan ardal Cei Llechi hanes pwysig iawn ym myd diwydiannol Caernarfon a’r cylch. A hithau’n 2022 – mae adfaelion yr hen adeiladau wedi’u traswnewid ar gyfer 19 o unedau gwaith / crefft / manwerthu, bwyty. Hefyd ar y safle mae 3 llety gwyliau hunan arlwyo, ystafell gyfarfod ac arddangosfa yn nodi hanes ardal Cei Llechi a’i bwysigrwydd yn lleol, genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Amdanom Ni

HANES CEI LLECHI


Mae tystiolaeth o darddiad yr hen Gei Llechi yn dyddio yn ôl i 1611, gyda mapiau yn dangos arwyneb lefel wedi ei dorri mewn i’r graig ar lan ddwyreiniol yr afon Seiont. Mae golygfeydd o’r ardal yn ôl y Deunawfed Ganrif, megis darlun Richard Wilson Caernarfon Castle (1745), hefyd yn dangos amryw o weithgareddau yn digwydd yn yr ardal megis atgyweirio rhwydi a chychod.

GWAITH DATBLYGU’R SAFLE


Pensaer y prosiect oedd Purcell, gyda’r cwmni adeiladu arbenigol Grosvenor Construction Ltd o Fae Cinmel yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.

Dechreuwyd y gwaith paratoi ar y safle ym mis Hydref 2018 a cwblhawyd y datblygiad yn ystod Haf 2021.

Lluniau o’r safle cyn dechrau’r gwaith

Lluniau o’r safle mis Awst 2019

DIDDORDEB RHENTU UNED?


Mae’r unedau gwaith/gweithdai a manwerthu ar y safle yn addas i wneuthurwyr o bob math – cyn belled a bod y cynnyrch yn cael ei greu a’i ddatblygu yn yr uned.

Dyma leoliad perffaith ar gyfer busnes sydd yn creu gwaith creadigol o unrhyw fath – gyda metel, gwydr, gemwaith, coed, tecstiliau, celf, bwyd neu ddiod.

I fod yn gymmwys am uned – rhaid cyrraedd meini prawf penodol. Gellir lawrywytho rhain yma

I ddatgan diddordeb ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwyn Roberts:

ceillechi@galericaernarfon.com | 01286 685 201

Datblygiad gan:

Galeri a Caernarfon Harbour Trust

Ariennir y prosiect gan:

Galeri a Caernarfon Harbour Trust

© 2022 Cei Llechi. Gwefan gan Delwedd