Beth Horrocks Gallery
Beth Horrocks Gallery
Uned 19, Cei Llechi
Yn fwyaf adnabyddus am ei phalet lliw dyrchafol a'i marciau chwareus ac unigryw, mae darluniau fector digidol Beth yn ennyn atgofion melys a gwerthfawrogiad o dirwedd ddramatig Cymru. Gan herio’i hun wrth ddefnyddio’r beiro a’r llechen graffig, mae Beth yn defnyddio’i sgiliau dylunio graffeg a enillwyd ar ôl blynyddoedd o lunio logos. Mae Beth wrth ei bodd gyda’r awyr agored ac yn gweld ei thirwedd yn ddathliad o harddwch naturiol eithriadol Cymru.
Ers 2018, mae Beth wedi newid yn raddol o yrfa mewn dylunio graffeg i fod yn artist llawn amser, gyda'i gwaith yn ymddangos mewn nifer o orielau a siopau ar draws Gogledd Cymru ac mor bell i ffwrdd a Dorset.