Lisa Eurgain Taylor
Lisa Eurgain Taylor
Uned 4 a 18, Cei Llechi
Mae Lisa yn artist sy’n peintio tirluniau haniaethol wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri. Mae nhw'n lefydd hudolus, ffantasïol sy'n eich galluogi i ddianc i ryw fyd arall. Ers graddio o goleg Celf Wimbledon yn 2013, mae Lisa wedi arddangos gwaith mewn arddangosfeydd unigol a sioeau grŵp - yn cynnwys sioeau ym Mharis, Rhufain a Llundain. Mae hi hefyd yn mwynhau gwneud comisiynau, gwerthu prints o ei waith a chynnal gweithdai.