Pentref Siopau Artisan

Gweithdy modrwyau addasadwy

Cartref > Digwyddiadau > Gweithdy modrwyau addasadwy

Gweithdy modrwyau addasadwy gyda Elin

02.11.25 | 15:00 – 18:00 | £80

Gweithdy Arianwaith i Ddechreuwyr

Ymunwch â ni am weithdy hwyliog lle byddwch yn dysgu sgiliau craidd arianwaith fel dylunio, llifio, sodro, sandio, sgleinio – a llawer mwy!

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg), felly croeso i bawb.

Addas ar gyfer pob lefel o brofiad – boed yn gwbl newydd neu’n chwilfrydig i ddysgu mwy :)

Ychydig amdanaf i

Rwyf wedi bod yn ymarfer fel arianwraig ers dros chwe blynedd, ac ers blwyddyn a hanner rwyf wedi bod yn gweithio’n llawn amser fel gemwraig ac yn ddarlunydd. Cynhelir y gweithdy yn fy stiwdio rannu, Crefft Migldi Magldi – hen forge rhestredig Gradd 2 sy’n llawn cymeriad!

Beth sydd ei angen arnoch:

  • Dewch â’ch byrbrydau a diodydd eich hun
  • Rhowch wybod i mi ymlaen llaw os oes gennych unrhyw alergeddau bwyd
  • Oedran: 14+

Manylion Ychwanegol

Lleoliad: Uned 5, Cei Llechi, Caernarfon, LL55 2PB – gyferbyn â Levels a’r ganolfan swyddi

Dyddiad: 2il Tachwedd 2025

Amser: 3yp – 6yp

Archebwch eich lle

Pob digwyddiad